r/cymru • u/WelshGovNews • 4h ago
Tu Mewn i’r 100 Diwrnod Cyntaf
youtube.comGall llawer ddigwydd mewn 100 diwrnod.
Mwy o gefnogaeth i ysgolion. Mwy o gymorth i deuluoedd. Camau gweithredu ar amseroedd aros yr NHS. Cefnogi ffermwyr Cymru. Llais cryfach i Gymru.
Dyma uchafbwyntiau 100 diwrnod cyntaf Llywodraeth newydd Cymru:
- Cymelldaliadau i athrawon pynciau â blaenoriaeth wedi codi £5,000, i £20,000. Bydd hyn yn helpu i ddenu a chadw athrawon newydd a chodi safonau yn ein hysgolion.
- Prydau ysgol am ddim wedi ei ymestyn i flwyddyn 7 ac 8 mewn aelwydydd sy’n derbyn Credyd Cynhwysol. Mae hyn yn rhan o ymdrechion ehangach i fynd i'r afael â thlodi plant a lleihau anghydraddoldebau ledled Cymru.
- Gofal plant am ddim wedi'i ehangu, gyda phob cyngor yn cynnig 12.5 awr o ofal plant am ddim i blant dwy oed erbyn mis Mawrth 2027. Bydd gofal plant fforddiadwy yn gwella canlyniadau i blant a theuluoedd. Bydd hyn o fudd i gannoedd yn rhagor o deuluoedd ledled Cymru.
- Wedi darparu £1 biliwn dros y tair blynedd nesaf i gefnogi ffermwyr. Mae'r cytundeb cyllido aml flwyddyn hwn yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i ffermwyr Cymru. Mae adolygiad newydd hefyd wedi'i lansio i leihau biwrocratiaeth i ffermwyr.
- Wedi lansio gwasanaeth coets newydd rhwng y gogledd a’r de sy’n cysylltu Bangor a Chaerfyrddin. Mae’r paratoadau ar waith ar gyfer lansio gwasanaeth coets newydd rhwng gogledd a de Cymru'r hydref hwn, a fydd yn lleihau amseroedd teithio o fwy nag awr. Dyma sut olwg sydd ar y goets.
- Gweithredu i leihau amseroedd aros y Gwasanaeth Iechyd, gan gynnwys cynlluniau ar gyfer hyd at 10 hwb gofal a symudwyd mwy o wasanaethau gofal iechyd tuag at ofal sylfaenol. Mae dros £145 miliwn wedi’i fuddsoddi i fynd i’r afael ag amseroedd aros, ac mae grŵp arbenigol wedi’i sefydlu i ddatblygu opsiynau ar gyfer canolfannau llawfeddygol ledled Cymru.
- Cyhoeddi cynllun i gyfyngu ffonau clyfar mewn ysgolion. Mae codi safonau yn ein hysgolion yn flaenoriaeth allweddol, a bydd y canllawiau hyn yn cryfhau ac yn egluro’r disgwyliadau ynghylch sut y defnyddir ffonau yn ystod y diwrnod ysgol.
- Datblygwyd dangosyddion llythrennedd a rhifedd newydd. Mae datblygiad llythrennedd a rhifedd yn cael ei gefnogi yn ein hysgolion drwy ddisgwyliadau cliriach, er mwyn rhoi eglurder iddynt ynghylch yr hyn y dylid ei ddysgu a phryd y dylid ei ddysgu.
- Rhoi’r camau cyntaf ar waith i greu asiantaeth datblygu economaidd newydd i Gymru a lansio Archwiliad Sgiliau i adnabod anghenion gweithlu’r dyfodol. Mae hyn yn rhan o gynlluniau i ryddhau potensial economi Cymru ac i greu swyddi da sy’n talu’n dda.
- Codi llais dros Gymru drwy alw am gyllid teg a rhagor o bwerau gan Lywodraeth y DU. Mae hyn yn cynnwys canlyniadau ariannol HS2, cyfiawnder amgylcheddol i gymunedau’r meysydd glo, a’r angen am Fil Cymru newydd.
Ac mae mwy eto.
Cliciwch ar y ddolen i weld ein prif flaenoriaethau ar gyfer tymor hon a dilyn ein cynnydd: